JuliaWILLIAMSPen y Rhiw, Tal-y-sarn. Dymuna Dafydd, Michael, Carol a Sandra a'u teuluoedd ddiolch am y cydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt gan deulu a ffrindiau yn eu profedigaeth o golli Julia, gwraig, mam, nain a h?n-nain annwyl iawn. Diolch i'r Nyrsys Cymunedol, genod Gofal Bro a nyrsus hynod Hosbis yn y Cartref am eu gofal a'u cefnogaeth. Hefyd diolch i Daphne Hollings a Lloyd Jones, Ficeriaid y Plwyf am eu hymweliadau. Diolch i bawb am y llu cardiau a'u rhoddion hael o ?920 i Hosbis yn y Cartref. Diolch i'r Parch. Lloyd Jones a'r Parch. Eric Roberts am eu gwasanaeth ddydd yr angladd ac i Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu trefniadau trylwyr a gofalus. Diolch yn fawr iawn i bawb o waelod calon am eu geiriau caredig am Julia.
Keep me informed of updates